Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau lle mae troseddwyr yn ceisio dynwared yr Heddlu. Mae adroddiadau wedi bod am hyn yn digwydd yn Rhanbarth y Gogledd Orllewin ac mewn llawer o ardaloedd eraill yng Nghymru a Lloegr yn ddiweddar.
Ni fydd yr heddlu byth yn gofyn i chi symud arian i’w ddiogelu nag i’w helpu gydag ymchwiliad twyll ac ni fydd yr Heddlu byth yn eich ffonio i ofyn i chi wirio’ch PIN na gwneud trefniadau i gasglu arian parod neu’ch cerdyn banc trwy negesydd er mwyn ei gadw’n ddiogel.
Os ydych chi’n ansicr am unrhyw gyswllt gan yr Heddlu ffoniwch 101 i gadarnhau mai Swyddog Heddlu wnaeth gysylltu hefo chi.
Yn aml bydd Troseddwyr yn targedu’r henoed gyda’r math hwn o scam, felly a fyddech cystal â threulio ychydig funudau i godi ymwybyddiaeth o hyn gyda’ch perthnasau a/neu gymdogion oedrannus.
#SeiberDdiogelHGC