Warning over Facebook Marketplace fraud / Rhybudd am dwyll wrth brynu a gwerthu ar Facebook.

Message Type Icon
With Christmas fast approaching we have seen a sharp increase in Facebook Marketplace fraud. Over the weekend members of the public in North Wales have reported losses of £4270 over a two-day period.

The reports include victims paying large deposits or making full payment direct into the suspects bank account. Unfortunately, the goods are never received. In one instance a large deposit was made for an item but when the victim attended the address provided to collect the item, the elderly occupants were totally unaware of the sale and the victim was left out of pocket.
 
People selling items have also been targeted by criminals. In one case fraudsters posing as buyers arrived at the victim’s house to collect an item and claimed they had made payment using an online banking app. The suspects were handed the item and left, but the funds were never received by the victim as the banking app was fake.

Be careful when using Facebook Marketplace as there is little chance of being reimbursed if something goes wrong. When buying items, we advise to carry out transactions face to face where possible, using cash or safe payment services such as Paypal, where a level of protection is offered. Don’t pay for an item until you’ve received it and don’t hand over an item you are selling to a buyer until you have received payment.
 
If you need to report any fraudulent activity, contact Facebook to report the account, and visit the Action Fraud website or the North Wales Police website or call 101.

#NWPCyberSafe

Wrth i’r Nadolig nesáu rydym wedi gweld cynnydd mawr mewn twyll sy’n digwydd wrth brynu a gwerthu ar Facebook. Dros y penwythnos rydym wedi derbyn adroddiadau gan sawl aelod o’r cyhoedd gyda chyfanswm o £4270 yn cael ei golli yma yng Ngogledd Cymru. 
 
Mae’r adroddiadau yn cynnwys pobl yn talu blaendaliadau mawr neu daliadau llawn i mewn i gyfrifon banc anhysbys. Yn anffodus ar ôl gwneud y taliad nid ydynt yn derbyn y nwyddau. Mewn un digwyddiad talwyd blaendal mawr ar gyfer eitem a phan aeth y prynwr i’r cyfeiriad i’w gasglu doedd y bobl oedrannus a oedd yn byw yno ddim yn ymwybodol o’r peth o gwbl gan adael y prynwr yn waglaw.

Mae gwerthwyr wedi cael eu twyllo hefyd.  Mewn un achos daeth twyllwyr i dŷ gwerthwr i gasglu eitem yn honni eu bod wedi talu drwy ap bancio ar-lein. Rhoddwyd yr eitem i’r twyllwyr ond ni dderbyniwyd yr arian gan fod yr ap bancio yn un ffug.
 
Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio Facebook Marketplace gan ei bod yn annhebygol iawn y cewch eich arian yn ôl os yr aiff rhywbeth o’i le.  Pan fyddwch yn prynu nwyddau ceisiwch eu prynu wyneb yn wyneb gan ddefnyddio arian parod neu drwy wasanaeth talu diogel fel PayPal. Peidiwch a thalu am eitem nes eich bod wedi ei dderbyn a peidiwch a rhoi eitem rydych chi’n ei gwerthu i brynwr nes eich bod wedi derbyn taliad.

Os yr ydych angen riportio unrhyw dwyll, cysylltwch â Facebook i riportio cyfrif y twyllwr, ac yna riportiwch i’r Heddlu drwy wefan Action Fraud neu gwefan Heddlu Gogledd Cymru neu drwy ffonio 101.
 
#SeiberDdiogelHGC