Another warning over Online Marketplace fraud / Rhybudd arall am dwyll wrth brynu a gwerthu Ar-lein

Message Type Icon

Since the 1st of January 2023 North Wales Police have received 21 reports of victims selling items online and not receiving payment, totalling a loss of over £10,600.

Criminals are using a number of methods and are targeting those selling high value items such as mobile phones, tablets and laptops.

In some cases, the victims receive a fake email from Paypal claiming the payment has been made and the victim is then urged to send the sold item to the suspect in the post, only to find that no monies have actually been paid and all contact with the buyer is blocked.

In other cases, suspects have attended the victims home address and pretended to make payment using a fake banking app or using forged bank notes to pay before leaving with the goods.

Anyone selling items online are urged to ensure that payment is made in full prior to parting with any goods. If using Paypal, check the payment has been made using the app and do not agree to use the Friends and Family option as there is no protection offered with this service.

#NWPCyberSafe

Ers y 1af o Ionawr 2023 mae Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn 21 o adroddiadau am ddioddefwyr yn gwerthu eitemau ar-lein a heb dderbyn taliad, gyda cyfanswm colled o dros £10,600.

Mae troseddwyr yn defnyddio nifer o ddulliau gwahanol i dwyllo ac yn targedu’r rhai sy’n gwerthu eitemau gwerth uchel fel ffonau symudol, tabledi a gliniaduron.

Mewn rhai achosion mae’r dioddefwyr wedi derbyn e-bost ffug gan Paypal yn honni fod y taliad wedi’i wneud. Yna anogir y gwerthwr i anfon yr eitem a werthwyd at y prynwr yn y post. Ar ôl gyrru’r eitem mae’r gwerthwr yn darganfod nad oes unrhyw arian wedi’i dalu mewn gwirionedd a fod pob cyswllt â’r prynwr yn cael ei rwystro.

Mewn achosion eraill mae’r twyllwyr wedi mynd i gartrefi gwerthwyr ac wedi esgus gwneud taliad gan ddefnyddio ap bancio ffug neu ddefnyddio arian ffug i dalu cyn gadael gyda’r nwyddau.

Anogir unrhyw un sy’n gwerthu ar-lein i sicrhau fod taliad yn cael ei wneud yn llawn cyn rhyddhau unrhyw nwyddau neu eitemau sy’n cael eu gwerthu . Os ydych chi’n defnyddio Paypal, gwiriwch fod y taliad wedi’i wneud gan ddefnyddio’r ap a pheidiwch â chytuno i ddefnyddio’r opsiwn Ffrindiau a Theulu gan nad oes unrhyw siawns o gael arian yn ôl gyda’r opsiwn yma.

#SeiberDdiogelHGC